PAPUR I'R PWYLLGOR MENTER A BUSNES AR Y PWYSAU SY'N WYNEBU'R DIWYDIANT DUR

 

 

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae'r papur hwn wedi'i baratoi i helpu i drafod eitem ar y pwysau sy'n wynebu'r diwydiant dur yng Nghymru.

 

 

Sefyllfa'r Diwydiant Dur

 

2.    Y diwydiant dur yw un o gonglfeini ein sector gweithgynhyrchu. Mae'r prif safleoedd dur yn cyflogi nifer sylweddol o weithwyr yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, yn cynnal cadwyni cyflenwi amrywiol yn ogystal ag yn sbarduno gwaith ymchwil a datblygu ac arloesedd.

 

3.    Fodd bynnag, mae'n glir bod diwydiant dur y DU yn wynebu ei gyfnod anoddaf erioed. Mae'r argyfwng presennol wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd lawer. Mae mewnforion rhad, yn enwedig o Tsieina a bellach gwledydd eraill gan gynnwys Rwsia, wedi achosi i brisiau dur Ewrop gwympo'n barhaus.  Mae'r stribedi dur a gaiff eu mewnforio i'r UE o Tsieina wedi codi bron 50% yn y flwyddyn ddiwethaf. 

 

4.    Nid mewnforion rhad o dramor yw'r unig ffactor sy'n effeithio'n andwyol ar ddiwydiant dur y DU. Mae hefyd yn dioddef oherwydd bod y galw amdano'n sylweddol is na'r galw cyn y dirwasgiad; costau ynni uchel; ardrethi busnes sy'n sylweddol uwch nag ar dir mawr Ewrop; a chapasiti gormodol yn y farchnad. O ganlyniad mae pris dur bellach yn llai na hanner yr hyn ydoedd yn 2011 ac mae'n sylweddol is na'i bwynt isaf cyn hynny yn 2009.

 

5.    Ar 18 Ionawr cyhoeddodd Tata Steel UK Limited gynigion i arbed costau gyda'r potensial o golli 1,050 o swyddi. Roedd 750 o'r swyddi hynny am gael eu colli ym musnes Strip Products UK ym Mhort Talbot. Bydd nifer llai o swyddi'n cael eu colli ar safleoedd Trostre a Llawern. Ar hyn o bryd mae Tata'n cyflogi ryw 6,500 o weithwyr yng Nghymru.

 

6.    Yn ogystal â Tata Steel a Celsa, mae cwmnïau nodedig eraill yn prosesu dur yng Nghymru, gan gynnwys Liberty Steel, Capital Coated Steel a Caparo Wire.

 

7.    Ym mis Hydref 2015, cyflwynodd UK Steel, y gymdeithas sy'n cynrychioli diwydiant dur y DU, bum cais i'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu cynhyrchwyr dur yn y DU a diogelu dyfodol y diwydiant dur yn y DU:

 

·         Camau ar lefel yr UE ar fesurau gwrthddympio: mae UK Steel yn dadlau bod camau diweddar Comisiwn yr UE yn mynd yn uniongyrchol groes i'r casgliadau a gyrhaeddwyd wedi cyfarfod brys y Cyngor Cystadleurwydd y llynedd. Maent yn annog Llywodraeth y DU i bwyso ar y Comisiwn i weithredu.

 

·         Camau ar lefel yr UE ar Statws Economi'r Farchnad (MES) ar gyfer Tsieina: mae'r UE wrthi'n ystyried a ddylai gydnabod Tsieina'n economi farchnad. Mae UK Steel yn dadlau pe bai Tsieina'n derbyn statws MES byddai'r mesurau gwrthddympio, sy'n diogelu cannoedd ar filoedd o swyddi yn yr UE rhag cystadleuaeth annheg Tsieina ar draws ystod o ddiwydiannu strategol yr UE, yn troi'n ddiwerth.

 

·         Newid Ardrethi Busnes ar gyfer cwmnïau cyfalaf-ddwys yn unol â'u cystadleuwyr yn Ffrainc a'r Almaen, drwy beidio ag ystyried offer a pheiriannau wrth gyfrif ardrethi busnes.

 

·         Defnyddio deunyddiau lleol mewn prosiectau adeiladu mawr

 

·         Rhoi cymorth ariannol yn uniongyrchol i'r sector ym maes Ymchwil a Datblygu a gwelliannau amgylcheddol.

 

 

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

 

8.    Rydym wedi bod yn gweithio'n agos â'r diwydiant dur am flynyddoedd lawer ac rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ei wynebu.  Rydym wedi bod yn defnyddio'n cyfryngau ein hunain i ddatblygu cymorth, sy'n amrywio o ymchwil a datblygu, sgiliau a hyfforddiant, cymorth ar gyfer diogelu'r amgylchedd ac ystyried opsiynau ar gyfer ardrethi busnes.

 

9.    Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried y sector dur yn sector dan gyfyngiadau ac felly nid yw'n gallu manteisio ar bob ffurf o gymorth gwladwriaethol gan gynnwys cymorth achub ac ailstrwythuro ar gyfer cwmnïau sydd mewn trafferthion neu gymorth rhanbarthol ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf mewn ardaloedd a gynorthwyir. Fodd bynnag, mae'r sector dur yn gymwys i dderbyn mathau eraill o gymorth gwladwriaethol megis cymorth i ddiogelu'r amgylchedd a mesurau ymchwil a datblygu.

 

10. Ar y cyd â'r EPSRC (y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) ac Innovate UK rydym wedi helpu i ddatblygu SPECIFC (y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Arloesi mewn Haenau Diwydiannol Gweithredol) i sicrhau bod ffrwyth ymchwil sy'n cael ei gynnal yn SPECIFC yn cael ei fasnacheiddio'n gynhyrchion a gwasanaethau newydd. Tata yw un o'r prif bartneriaid diwydiannol yn y ganolfan hon, gyda BASF, Pilkington a chwmnïau o drawstoriad eang o'r diwydiant.

 

11.  Rydym hefyd wedi rhoi cymorth penodol i Tata a Celsa gan gynnwys hyfforddiant a sgiliau sy'n cael eu cydnabod yn arfer gorau gan y diwydiant ac undebau yn y DU.

 

12. Rydym hefyd yn ystyried creu Ardal Fenter ychwanegol yng Nghymru sy'n cwmpasu Port Talbot. Yn ogystal ag anfon neges bwysig i'r diwydiant, byddai'n creu amgylchedd lle y gallai busnesau a diwydiannau eraill ffynnu ynddo.   I gael yr effaith fwyaf, byddai angen i Ardal Fenter o'r fath gael yr holl gyfryngau polisi gan gynnwys Lwfansau Cyfalaf Uwch (ECAs) ac rydym wrthi'n trafod ein cynigion gyda Llywodraeth y DU.

 

13. O ran ardrethi busnes, rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth ystyried ystod o opsiynau ac yn benodol, brisio offer a pheiriannau am fod hyn yn effeithio ar sawl sector. Rydym wedi canolbwyntio ar a all newidiadau gael eu gwneud i eithrio buddsoddiadau newydd mewn offer a pheiriannau rhag talu gwerth ardrethol (RV) eiddo (hereditament).

 

14.Maes technegol iawn yw hwn, fel sy'n cael ei gydnabod gan y Panel Ardrethi Busnes a sefydlais, sy'n gofyn am fethodoleg brisio, goblygiadau ariannol ac arweiniad arall ond mae'n gyfle euraidd i newid.  Mae ein Swyddogion yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i weld beth fyddai'n dechnegol bosibl a thros ba gyfnod.

 

 

Tasglu Tata

 

15.Mewn ymateb i'r problemau sy'n wynebu Tata Steel ym Mhort Talbot a'i gyhoeddiad i ddiswyddo 1050 o bobl, gwnaethom greu Tasglu Tata ar unwaith gan gynnal y cyfarfod cyntaf ar 20 Ionawr.

 

16.Prif ffocws y Tasglu yw gwneud pob dim a allwn i helpu'r gweithwyr dan sylw. Fodd bynnag, mae'r cyfan yn debygol o effeithio ar fwy na'r gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi.  Mae'n debygol y bydd y newyddion yn effeithio ar fusnesau yn y prif gadwyni cyflenwi yn ogystal â busnesau llai sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau lleol. Felly bydd y Tasglu hefyd yn ystyried yr hyn sy'n gallu cael ei wneud i'w helpu hefyd. Bydd y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen yn syth ac ar y cyd â'n gwaith i helpu gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi.

 

17.Mae'r Tasglu wedi creu pedwar llif gwaith i ystyried y camau y gallwn eu cymryd mewn ymateb i'r cyhoeddiad hwn.

 

·         Hyfforddiant a Sgiliau

·         Cymorth Busnes a chadwyni cyflenwi

·         Iechyd 

·         Caffael

 

18.Bydd y llif gwaith caffael yn archwilio'r hyn sy'n gallu cael ei wneud i gynyddu nifer y contractau y mae gweithgynhyrchwyr UK Steel yn eu hennill mewn cystadleuaeth deg ac agored.

 

19.Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru a gyhoeddwyd yn 2012 yn llwyr gefnogi egwyddorion Siarter Dur Prydain. Mae ein polisïau caffael blaengar sydd eisoes ar waith yn cyd-fynd â nodau'r Siarter.  Er enghraifft, rydym wrthi'n adolygu'r dogfennau contract enghreifftiol ar gyfer cyflawni prosiectau trafnidiaeth mawr i sicrhau bod y safon yn cael ei hystyried. Bydd y llif gwaith yn ystyried opsiynau i ddefnyddio cyfryngau fel grantiau i gyflawni'r polisi caffael. Bydd hefyd yn cytuno ar ffordd o bennu'r gofynion am ddur mewn prosiectau yn y dyfodol.

 

Materion y DU a'r UE 

 

20.Mae'r problemau mwyaf sylweddol sy'n effeithio ar yr argyfwng presennol sy'n wynebu'r diwydiant yn cael eu gweld ar lefel y DU ac ar lefel yr UE.

 

21.Yn ogystal â dympio mewnforion rhad o dramor, mae'r gyfradd gyfnewid bresennol a'r bunt gref, yn ogystal â chostau ynni uwch na gwledydd eraill yr UE, yn effeithio ar gynhyrchwyr dur yn y DU.

 

22.Rydym wedi bod yn mynegi pryderon ers 2011 am yr effaith y mae prisiau ynni yn ei chael ar fusnesau sy'n defnyddio llawer iawn o ynni.  Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cael caniatâd i lacio'r rheolau ar gymorth gwladwriaethol i dalu iawndal i ddiwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni gan gynnwys cynhyrchwyr dur am gostau ynni adnewyddadwy. Ni fydd angen i ddiwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni dalu costau polisi'r Rhwymedigaeth Adnewyddadwy a Thariffau Cyflenwi Trydan.

 

23.Rydym hefyd wedi mynegi pryderon am faint ac, mewn rhai achosion, ansawdd cynhyrchion dur penodol sy'n cael eu mewnforio. Rydym hefyd wedi nodi'r posibilrwydd y gallai Cronfa Addasu Globaleiddio Ewrop roi cymorth priodol i unrhyw weithwyr sy'n colli eu swyddi.

 

24.Mewn cynhadledd rhanddeiliaid y diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, a gynhaliwyd ar 15 Chwefror ym Mrwsel galwodd y diwydiant dur ar yr UE i gryfhau mesurau amddiffyn y fasnach. Roedd costau ynni uchel hefyd wedi'u nodi'n rhwystr mawr i'w gallu i gystadlu.

 

25.Bydd angen cymryd camau ar lefel Cymru a'r DU i helpu'r diwydiant drwy gyfrwng polisi caffael.

 

 

26.Mae'r pwyntiau uchod wedi'u hadleisio gan y Tasglu a Chyngor Adnewyddu'r Economi.  Yn bresennol yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor ar 1 Chwefror oedd sefydliadau busnes fel CBI Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn Busnesau Bach ynghyd â TUC Cymru, Unite ac Undebau Cymunedol. Rwy'n atodi hysbysiad y Cyngor yn dilyn y cyfarfod er gwybodaeth y Pwyllgor.

 


 

HYSBYSIAD CYNGOR ADNEWYDDU’R ECONOMI – 01 CHWEFROR 2016

 

Daeth Cyngor Adnewyddu’r Economi ynghyd heddiw (1 Chwefror), a’r prif drafodaethau oedd y diwydiant dur yng Nghymru.

 

Roedd pob un o’r partneriaid cymdeithasol yn bresennol. Roedd TUC Cymru yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr Unite ac Undebau Cymunedol. Roedd cynrychiolwyr busnes yn cynnwys CBI, FSB, IoD, Cadeirydd Commerce Cymru, ICAEW, Siambr Fasnach De Cymru, RICS a Chymdeithas y Cyfreithwyr. Roedd y mentrau cymdeithasol yn cael eu cynrychioli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru..

 

Cafodd y Cyngor y newyddion diweddaraf am Dasglu Tata, oedd wedi cyfarfod am y tro cyntaf ddau ddiwrnod wedi’r cyhoeddiad. Cynhelir ail gyfarfod y Tasglu brynhawn heddiw.

 

Cafodd y gweithredu cyflym a phroactif gan Lywodraeth Cymru wrth gymeryd camau ar fyrder i sefydlu’r Tasglu ei gydnabod gan y Cyngor. Cytunodd y Cyngor mai’r blaenoriaethau oedd sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i’r rhai yr effeithir arnynt yn ogystal â mynd i’r afael â’r effaith ar yr economi leol a chadwyni cyflenwi.

 

Fodd bynnag, pwysleisiodd y Cyngor fod y problemau tyngedfennol sy’n cael effaith ar y diwydiant dur yn llawer ehangach na’r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, a bod angen i Lywodraeth y DU gymeryd camau amlwg ar unwaith i ddelio ag amrywiol broblemau difrifol, gan gynnwys yr angen am strategaeth i gefnogi’r diwydiant dur.

 

Yn benodol, bu’r Cyngor yn annog Llywodraeth y DU i wneud cais ar frys i Gronfa Globaleiddio Ewrop roi y cymorth sydd ei angen yn fawr i’r rhai sydd mewn perygl o golli eu swyddi.

 

Mae’r argyfwng presennol yn dilyn y pwysau parhaus fu ar y diwydiant dur yn Ewrop o ganlyniad i fewnforio rhad, yn enwedig o Tsieina, a gwledydd eraill hefyd bellach, gan gynnwys Rwsia, a galwodd y Cyngor am fesurau atal dympio ar fyrder ar ddeunyddiau dur.

 

Cafodd y bygythiad o weld Tsiena yn cael ei chydnabod fel gwlad sydd ag economi’r farchnad ei bwysleisio, a’r effaith negyddol fyddai hyn yn ei gael ar unrhyw fesurau gwrth-ddympio. Ystyriwyd bod caffael yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o newid pethau. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithredu ar hyn ond roedd angen i Lywodraeth y DU ymrwymo i weithredu’n weladwy ar bob prosiect seilwaith mawr megis Morlyn Llanw Bae Abertawe. Roedd hyn yn bwysig, nid yn unig o ran effaith faint o ddur sydd ar gael a’r pris gan y diwydiant, ond o ran diogelwch mewn achosion ble y mae cynnyrch dur o ansawdd is yn cael ei fewnforio i’w ddefnyddio ar gyfer prosiectau adeiladu yn y DU.

 

Mae effaith prisiau ynni uchel yn y DU wedi’i godi yng Nghyngor Adnewyddu’r Economi ers sawl blwyddyn. Bu galwadau dro ar ôl tro ar i Lywodraeth y DU ddelio â’r mater hwn. Roedd effaith y prisiau uchel hyn ar ba mor gystadleuol yw’r diwydiant dur yng Nghymru yn fyd-eang yn hynod amlwg heddiw.

 

Roedd y Cyngor yn unfrydig wrth alw am weithredu amlwg ar fyrder gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r sector dur, gan gydnabod bod y diwydiant yn dioddef un o’r adegau mwyaf argyfyngus yn ei hanes. Mae’r sector yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r cynnyrch domestig gros, ac mae’n cynnal miloedd o swyddi ledled Cymru a'r DU. Tynnodd y Cyngor sylw at ganlyniadau difrifol colli gallu'r DU i gynhyrchu dur a gorfod dibynnu ar fewnforion am nwyddau sydd mor dyngedfennol. Hefyd, ni fyddai effaith unrhyw ddirywiad pellach yn y diwydiant dur yn cael effaith ar y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn unig, ond byddai hefyd yn cael effaith ar weithgynhyrchu ledled Cymru.